Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Ebrill 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(0 munud)
Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.
(5 munud)
(30 munud)
Dogfennau ategol
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Prif Weinidog – 17
Ebrill 2018 (PDF, 140KB)
Ymateb gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor – 25
Ebrill 2018 (PDF, 207KB)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Llywydd – 17 Ebrill
2018 (PDF, 808KB)
Ymateb gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor – 25 Ebrill 2018
(PDF, 169KB)
(45 munud)
(60 munud)
NDM6707 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru – Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl – yw'r trydydd cynnig mewn tair blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.
2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen.
4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn, yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol.
Dogfen Ymgynghori Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu'r llymder sydd wedi arwain at doriadau enbyd i gyllidebau llywodraeth leol ers sawl blwyddyn, a’r ansicrwydd parhaus y mae cynghorau yn ei wynebu o ran eu sefyllfa ariannol ac ad-drefnu posibl.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet am bwysigrwydd cynnal perthynas, a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.
(30 munud)
NDM6706 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.
(30 munud)
NDM6709 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu’r grant ar gyfer gwisg ysgol.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.
(30 munud)
NDM6708 David Rees (Aberafan)
Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r cymoedd yn y dyfodol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Mai 2018